Sioe Flynyddol Llangernyw
2021
Y tro nesaf fydd ein 175ed, ond unwaith eto, mae'r argyfwng Covid-19 wedi ein gorfodi i ohirio am flwyddyn. Gyda gobaith, cawn gyfle i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon y flwyddyn nesaf. Felly i'r perwyl hwnnw, apeliwn arnoch os oes gennych hen luniau, cofnodion, straeon neu atgofion o'r sioeau a fu, wnewch chi gysylltu os gwelwch yn dda, er mwyn i ni greu arddangosfa fythgofiadwy yn 2022.
Cynhelir 175ed
yng Nghanolfan Bro Cernyw
LLANGERNYW
ar Ddydd Sadwrn, 27 Awst 2022